Technology

Arweinydd y Blaid Werdd yn addo creu llywodraeth mwy blaengar i Gymru

Yn ei araith fel arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru heddiw (Tachwedd 8) bydd Anthony Slaughter yn amlinellu sut y bydd y Gwyrddion yn y Senedd yn “gwella bywydau pobl”. Bydd yn pwysleisio bod yn rhaid i Gymru wneud yn fawr o “gyfle arbennig” i ethol llywodraeth newydd fis Mai nesaf. “Rydyn ni wedi bod yn aros am y cyfle yma ers blynyddoedd lawer. “Gallwn ni o’r diwedd gynnig llywodraeth newydd fywiog er mwyn creu Cymru well yn hytrach na’r llywodraeth ddi-hid bresennol sydd wedi diffygio. “Ond mae’n rhaid i ni hefyd fod yn flaengar – i sicrhau ein bod ni’n sefyll dros fuddiannau Cymru – yn wahanol i’r llywodraeth ofalus a dihyder sydd gennym ar hyn o bryd. “Rydyn ni angen llywodraeth fydd ddim yn plygu glin i dirfeddianwyr, landlordiaid a chorfforaethau. “Bod yn ofalus ydy’r peth olaf sydd ei angen arnon ni nawr.” Bydd hefyd yn cyfeirio at yr Alban fel enghraifft o sut mae’r Gwyrddion wedi ‘newid bywydau pobl er gwell.’ “Ychydig wythnosau yn ôl, roeddwn i yn yr Alban yn gwrando ar sut y gwnaeth cydweithwyr yno ennill rheolaeth dros rent a sut wnaethon nhw leihau tlodi plant. “Sut maen nhw wedi cael gwared â phrisiau brig ar gyfer teithiau trên, a sicrhau bod bysus am ddim i bobl ifanc. “Sut maen nhw wedi denu cyllid ar gyfer yr hinsawdd a byd natur. “Mae’r Alban wedi dangos bod angen gwleidyddiaeth flaengar gan y Gwyrddion i sicrhau’r amodau gorau i bobl. “Felly dychmygwch yr hyn allwn ni wneud yma wrth i’r Gwyrddion ddwyn pwysau ar lywodraeth newydd. Bydd hefyd yn cyhoeddi cyfres o flaenoriaethau ar gyfer Aelodau Gwyrddion o’r Senedd. “Byddwn ni’n gwneud eich bywydau yn well. “Byddwn yn cyflwyno trethi ar y cyfoethog yng Nghymru – drwy gyflwyno system lle bydd perchnogion tir cyfoethog yn talu mwy yn hytrach na threth cyngor i bobl gyffredin. “Gallwn ddechrau rhoi arian yn ôl i’n cynghorau er mwyn darparu gwasanaethau gwell yn lleol. “Gallwn adeiladu degau ar filoedd o dai cyngor newydd a gallwn wladoli dŵr fel y gallwn dorri biliau a glanhau ein hafonydd. “Gallwn ni greu swyddi da ledled Cymru ym maes ynni gwyrdd ac insiwleiddio tai oer a thamp.”

Arweinydd y Blaid Werdd yn addo creu llywodraeth mwy blaengar i Gymru

Yn ei araith fel arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru heddiw (Tachwedd 8) bydd Anthony Slaughter yn amlinellu sut y bydd y Gwyrddion yn y Senedd yn “gwella bywydau pobl”.

Bydd yn pwysleisio bod yn rhaid i Gymru wneud yn fawr o “gyfle arbennig” i ethol llywodraeth newydd fis Mai nesaf.

“Rydyn ni wedi bod yn aros am y cyfle yma ers blynyddoedd lawer.

“Gallwn ni o’r diwedd gynnig llywodraeth newydd fywiog er mwyn creu Cymru well yn hytrach na’r llywodraeth ddi-hid bresennol sydd wedi diffygio.

“Ond mae’n rhaid i ni hefyd fod yn flaengar – i sicrhau ein bod ni’n sefyll dros fuddiannau Cymru – yn wahanol i’r llywodraeth ofalus a dihyder sydd gennym ar hyn o bryd.

“Rydyn ni angen llywodraeth fydd ddim yn plygu glin i dirfeddianwyr, landlordiaid a chorfforaethau.

“Bod yn ofalus ydy’r peth olaf sydd ei angen arnon ni nawr.”

Bydd hefyd yn cyfeirio at yr Alban fel enghraifft o sut mae’r Gwyrddion wedi ‘newid bywydau pobl er gwell.’

“Ychydig wythnosau yn ôl, roeddwn i yn yr Alban yn gwrando ar sut y gwnaeth cydweithwyr yno ennill rheolaeth dros rent a sut wnaethon nhw leihau tlodi plant.

“Sut maen nhw wedi cael gwared â phrisiau brig ar gyfer teithiau trên, a sicrhau bod bysus am ddim i bobl ifanc.

“Sut maen nhw wedi denu cyllid ar gyfer yr hinsawdd a byd natur.

“Mae’r Alban wedi dangos bod angen gwleidyddiaeth flaengar gan y Gwyrddion i sicrhau’r amodau gorau i bobl.

“Felly dychmygwch yr hyn allwn ni wneud yma wrth i’r Gwyrddion ddwyn pwysau ar lywodraeth newydd.

Bydd hefyd yn cyhoeddi cyfres o flaenoriaethau ar gyfer Aelodau Gwyrddion o’r Senedd.

“Byddwn ni’n gwneud eich bywydau yn well.

“Byddwn yn cyflwyno trethi ar y cyfoethog yng Nghymru – drwy gyflwyno system lle bydd perchnogion tir cyfoethog yn talu mwy yn hytrach na threth cyngor i bobl gyffredin.

“Gallwn ddechrau rhoi arian yn ôl i’n cynghorau er mwyn darparu gwasanaethau gwell yn lleol.

“Gallwn adeiladu degau ar filoedd o dai cyngor newydd a gallwn wladoli dŵr fel y gallwn dorri biliau a glanhau ein hafonydd.

“Gallwn ni greu swyddi da ledled Cymru ym maes ynni gwyrdd ac insiwleiddio tai oer a thamp.”

Related Articles