Technology

Cyfres realiti newydd S4C yn agor y bar Cymreig cyntaf yn Zante

Mae chwech o bobol ifanc ar fin agor bar Cymreig cyntaf y strip yn Zante, Gwlad Groeg, yn rhan o raglen newydd S4C wythnos nesaf. Bydd chwe chystadleuydd Bar Hansh yn ymgiprys am wobr ariannol o £5,000 wrth gydweithio i sicrhau bod y diodydd yn llifo a’r bar yn llwyddo. Ond bob wythnos, bydd gofyn i’r cystadleuwyr bleidleisio i roi’r sac i un o’r criw. Ameer Davies-Rana fydd bos y bar, sy’n cadw llygad ar y chwech. Bydd pennod gyntaf Bar Hansh yn cael ei darlledu am 9yh heno (Hydref 24) ar S4C, ac mae eisoes ar gael i’w gwylio ar S4C Clic a BBC iPlayer. Yna, ar ôl rhyddhau pob pennod, bydd Actavia y frenhines drag o’r Bala yn trafod y diweddaraf o’r Strip yng nghwmni gwesteion amrywiol ar bodlediad fideo Codi’r Bar. ‘Cymeriadau lliwgar a’u helyntion dramor’ Dyma gip ar y chwech fydd yn cystadlu am y wobr fawr yn Zante dros yr wythnosau nesaf: Angharad, 23 oed, Abertawe Mae Angharad yn gweithio fel technegydd eiliau ac yn dweud fod ganddi “ddim cywilydd”. “Fi’n siaradus, fi’n hyderus a just a girly girl all over,” meddai. Nel, 20 oed, Llanuwchllyn Mae Nel yn astudio milfeddygaeth ym Mhrifysgol Harper Adams ac yn dweud y byddai ei ffrindiau’n ei disgrifio fel person “annoyingly hapus”. “Dwi jyst y person mwyaf positif yn y byd mewn unrhyw fath o situation a dwi’n gwbod bo hwnna’n gallu bod yn annoying,” meddai. Rhodri, 21 oed, Penarth Mae Rhodri newydd raddio o gwrs Gwyddor Chwaraeon Prifysgol Abertawe ac yn dweud ei fod yn berson “creadigol, hyderus a naturiol”. “Does dim Welsh bar ar y strip yn Zante so dwi’n teimlo’n browd iawn i roi Cymru ar y map,” ychwanegodd. Ryan, 29 oed, Ynys Môn Mae Ryan yn berchen ar siop flodau a chwmni digwyddiadau. “Dwi wrth fy modd yn deud wrth bobl be’ i ‘neud ond os sa rywun yn deud ‘tha fi be’ i ‘neud, sa ‘na uffar o le ‘ma,” meddai. Shay, 26 oed, Caerdydd Mae Shay yn athro cyflenwi a pherfformiwr sy’n dweud y byddai’n barod i daflu rhywun dan fws er mwyn sicrhau’r wobr ariannol. “Dwi’n gallu bod yn calm iawn neu dwi’n gallu bod yn llawer i ddelio gyda. Take me as I come, hwnna’n beth dwi’n deud i pawb,” meddai. Tam, 25 oed, Llanllfyni Mae Tam yn gweithio fel rheolwr bar yng Nghaernarfon ac yn disgrifio’i hun fel “party animal”. “Dwi rili ddim yn mynd ymlaen hefo pobol fake, pobol sy’n trio rhoi persona ar sydd literally ddim yn nhw i drio impressio pobol,” meddai. “Mae’r fformat gwreiddiol hwn yn dangos bod S4C yn gallu cystadlu gyda chynnwys ffres a chyffrous,” meddai Guto Rhun, Comisiynydd Cynulleidfaoedd Ifanc S4C. “Gyda chymeriadau lliwgar a’u helyntion dramor, mae’r gyfres yn siŵr o fachu cynulleidfaoedd o’r bennod gyntaf un, wrth i S4C agor drysau Bar Hansh.”

Cyfres realiti newydd S4C yn agor y bar Cymreig cyntaf yn Zante

Mae chwech o bobol ifanc ar fin agor bar Cymreig cyntaf y strip yn Zante, Gwlad Groeg, yn rhan o raglen newydd S4C wythnos nesaf.

Bydd chwe chystadleuydd Bar Hansh yn ymgiprys am wobr ariannol o £5,000 wrth gydweithio i sicrhau bod y diodydd yn llifo a’r bar yn llwyddo.

Ond bob wythnos, bydd gofyn i’r cystadleuwyr bleidleisio i roi’r sac i un o’r criw.

Ameer Davies-Rana fydd bos y bar, sy’n cadw llygad ar y chwech.

Bydd pennod gyntaf Bar Hansh yn cael ei darlledu am 9yh heno (Hydref 24) ar S4C, ac mae eisoes ar gael i’w gwylio ar S4C Clic a BBC iPlayer.

Yna, ar ôl rhyddhau pob pennod, bydd Actavia y frenhines drag o’r Bala yn trafod y diweddaraf o’r Strip yng nghwmni gwesteion amrywiol ar bodlediad fideo Codi’r Bar.

‘Cymeriadau lliwgar a’u helyntion dramor’

Dyma gip ar y chwech fydd yn cystadlu am y wobr fawr yn Zante dros yr wythnosau nesaf:

Angharad, 23 oed, Abertawe
Mae Angharad yn gweithio fel technegydd eiliau ac yn dweud fod ganddi “ddim cywilydd”.
“Fi’n siaradus, fi’n hyderus a just a girly girl all over,” meddai.

Nel, 20 oed, Llanuwchllyn
Mae Nel yn astudio milfeddygaeth ym Mhrifysgol Harper Adams ac yn dweud y byddai ei ffrindiau’n ei disgrifio fel person “annoyingly hapus”.
“Dwi jyst y person mwyaf positif yn y byd mewn unrhyw fath o situation a dwi’n gwbod bo hwnna’n gallu bod yn annoying,” meddai.

Rhodri, 21 oed, Penarth
Mae Rhodri newydd raddio o gwrs Gwyddor Chwaraeon Prifysgol Abertawe ac yn dweud ei fod yn berson “creadigol, hyderus a naturiol”.
“Does dim Welsh bar ar y strip yn Zante so dwi’n teimlo’n browd iawn i roi Cymru ar y map,” ychwanegodd.

Ryan, 29 oed, Ynys Môn
Mae Ryan yn berchen ar siop flodau a chwmni digwyddiadau.
“Dwi wrth fy modd yn deud wrth bobl be’ i ‘neud ond os sa rywun yn deud ‘tha fi be’ i ‘neud, sa ‘na uffar o le ‘ma,” meddai.

Shay, 26 oed, Caerdydd
Mae Shay yn athro cyflenwi a pherfformiwr sy’n dweud y byddai’n barod i daflu rhywun dan fws er mwyn sicrhau’r wobr ariannol.
“Dwi’n gallu bod yn calm iawn neu dwi’n gallu bod yn llawer i ddelio gyda. Take me as I come, hwnna’n beth dwi’n deud i pawb,” meddai.

Tam, 25 oed, Llanllfyni
Mae Tam yn gweithio fel rheolwr bar yng Nghaernarfon ac yn disgrifio’i hun fel “party animal”.
“Dwi rili ddim yn mynd ymlaen hefo pobol fake, pobol sy’n trio rhoi persona ar sydd literally ddim yn nhw i drio impressio pobol,” meddai.

“Mae’r fformat gwreiddiol hwn yn dangos bod S4C yn gallu cystadlu gyda chynnwys ffres a chyffrous,” meddai Guto Rhun, Comisiynydd Cynulleidfaoedd Ifanc S4C.

“Gyda chymeriadau lliwgar a’u helyntion dramor, mae’r gyfres yn siŵr o fachu cynulleidfaoedd o’r bennod gyntaf un, wrth i S4C agor drysau Bar Hansh.”

Related Articles