Technology

Cyfri pleidleisiau etholiadau’r Senedd fis Mai ar y diwrnod canlynol

Mae Bwrdd Rheoli Etholiadol Cymru wedi cyhoeddi heddiw (Tachwedd 7) y bydd yn rhaid cyfri pleidleisiau etholiad Senedd Mai 7 2026 yn ystod y dydd y diwrnod ar ôl y bleidlais. Mae’r Bwrdd wedi rhoi cyfarwyddyd i Swyddogion Canlyniadau Cymru, y bobol sy’n gyfrifol am gynnal etholiadau yng Nghymru, i ddechrau cyfri’r pleidleisiau ar ôl 9yb (a chyn 11yb) ddydd Gwener, Mai 8 2026, y diwrnod ar ôl yr etholiad. Dyma’r ail dro y bydd cyfri pleidleisiau yn digwydd yn ystod y dydd gan fod pleidleisiau ar gyfer etholiad Senedd 2021 wedi cael eu cyfri ar y diwrnod canlynol. Cafodd y dull yma ei ddefnyddio hefyd ar gyfer etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2024 ac etholiadau Llywodraeth Leol 2022. ‘Ymgysylltu ag etholiad pwysig’ Mae’r Bwrdd Rheoli Etholiadol wedi penderfynu parhau â chyfri yn ystod y dydd ar ôl ymgynghori â Swyddogion Canlyniadau a’r Comisiwn Etholiadol. Y gobaith yw y bydd cyfri pleidleisiau ar y diwrnod canlynol yn rhoi cyfle i ragor o bobol gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau wrth i ganlyniadau gael eu cyhoeddi. Mae cyfri yn ystod y dydd hefyd yn sicrhau bod staff etholiadol wedi gorffwys, a bod yr holl adnoddau ar gael i swyddogion a’u timau gynnal y cyfri mewn modd diogel, effeithlon a llwyddiannus. Yn ogystal, mae’r cyfarwyddyd gan y Bwrdd yn sicrhau cysondeb ledled Cymru o ran pryd y bydd cyfri pleidleisiau’n digwydd. Er bod yn rhaid i bob cyfri ddechrau rhwng 9yb ac 11yb ddydd Gwener Mai 8, ac y bydd y rhan fwyaf o etholaethau yn gwirio nifer y papurau pleidleisio ar Mai 8, mae’r cyfarwyddyd yn cynnig hyblygrwydd i Swyddogion Canlyniadau allu gwirio papurau pleidleisio yn syth ar ôl i’r bleidlais gau am 10yh ddydd Iau Mai 7. Mae gwirio yn cyfeirio at gyfri nifer y papurau pleidleisio i sicrhau bod y cyfanswm yn cyfateb i nifer y papurau pleidleisio gafodd eu cyhoeddi. Dydy’r broses wirio ddim yn cynnwys cyfri nifer y pleidleisiau ar gyfer unrhyw ymgeisydd neu blaid. Dywed Shereen Williams, Prif Weithredwr Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru fod Swyddogion Canlyniadau a’u timau “eisoes yn gweithio’n ddiflino i sicrhau etholiad effeithiol a diogel ar Mai 7,” meddai. “Mae cyfri pleidleisiau yn ystod y dydd yn ceisio sicrhau bod rhagor o bobl yn gallu gwylio’r cyfri hollbwysig. “Bydd yr eglurder hefyd yn helpu Swyddogion Canlyniadau i recriwtio a rheoli llwyth gwaith eu staff. “Rydym eisiau i ragor o bobol o bob cwr o Gymru allu ymgysylltu â’r etholiad pwysig hwn, ac mae hynny’n cynnwys gwylio’r canlyniadau fel maen nhw’n cael eu cyhoeddi.”

Cyfri pleidleisiau etholiadau’r Senedd fis Mai ar y diwrnod canlynol

Mae Bwrdd Rheoli Etholiadol Cymru wedi cyhoeddi heddiw (Tachwedd 7) y bydd yn rhaid cyfri pleidleisiau etholiad Senedd Mai 7 2026 yn ystod y dydd y diwrnod ar ôl y bleidlais.

Mae’r Bwrdd wedi rhoi cyfarwyddyd i Swyddogion Canlyniadau Cymru, y bobol sy’n gyfrifol am gynnal etholiadau yng Nghymru, i ddechrau cyfri’r pleidleisiau ar ôl 9yb (a chyn 11yb) ddydd Gwener, Mai 8 2026, y diwrnod ar ôl yr etholiad.

Dyma’r ail dro y bydd cyfri pleidleisiau yn digwydd yn ystod y dydd gan fod pleidleisiau ar gyfer etholiad Senedd 2021 wedi cael eu cyfri ar y diwrnod canlynol.

Cafodd y dull yma ei ddefnyddio hefyd ar gyfer etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2024 ac etholiadau Llywodraeth Leol 2022.

‘Ymgysylltu ag etholiad pwysig’

Mae’r Bwrdd Rheoli Etholiadol wedi penderfynu parhau â chyfri yn ystod y dydd ar ôl ymgynghori â Swyddogion Canlyniadau a’r Comisiwn Etholiadol.

Y gobaith yw y bydd cyfri pleidleisiau ar y diwrnod canlynol yn rhoi cyfle i ragor o bobol gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau wrth i ganlyniadau gael eu cyhoeddi.

Mae cyfri yn ystod y dydd hefyd yn sicrhau bod staff etholiadol wedi gorffwys, a bod yr holl adnoddau ar gael i swyddogion a’u timau gynnal y cyfri mewn modd diogel, effeithlon a llwyddiannus.

Yn ogystal, mae’r cyfarwyddyd gan y Bwrdd yn sicrhau cysondeb ledled Cymru o ran pryd y bydd cyfri pleidleisiau’n digwydd.

Er bod yn rhaid i bob cyfri ddechrau rhwng 9yb ac 11yb ddydd Gwener Mai 8, ac y bydd y rhan fwyaf o etholaethau yn gwirio nifer y papurau pleidleisio ar Mai 8, mae’r cyfarwyddyd yn cynnig hyblygrwydd i Swyddogion Canlyniadau allu gwirio papurau pleidleisio yn syth ar ôl i’r bleidlais gau am 10yh ddydd Iau Mai 7.

Mae gwirio yn cyfeirio at gyfri nifer y papurau pleidleisio i sicrhau bod y cyfanswm yn cyfateb i nifer y papurau pleidleisio gafodd eu cyhoeddi.

Dydy’r broses wirio ddim yn cynnwys cyfri nifer y pleidleisiau ar gyfer unrhyw ymgeisydd neu blaid.

Dywed Shereen Williams, Prif Weithredwr Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru fod Swyddogion Canlyniadau a’u timau “eisoes yn gweithio’n ddiflino i sicrhau etholiad effeithiol a diogel ar Mai 7,” meddai.

“Mae cyfri pleidleisiau yn ystod y dydd yn ceisio sicrhau bod rhagor o bobl yn gallu gwylio’r cyfri hollbwysig.

“Bydd yr eglurder hefyd yn helpu Swyddogion Canlyniadau i recriwtio a rheoli llwyth gwaith eu staff.

“Rydym eisiau i ragor o bobol o bob cwr o Gymru allu ymgysylltu â’r etholiad pwysig hwn, ac mae hynny’n cynnwys gwylio’r canlyniadau fel maen nhw’n cael eu cyhoeddi.”

Related Articles