Technology

Hilda Murrell: 'Trio dod â'r gwir i'r wyneb'

Ugain mlynedd wedi llofruddiaeth Hilda Murrell a gyda help datblygiadau technoleg DNA, cafodd Andrew George ei arestio am ei llofruddiaeth a'i ddedfrydu yn 2005 i o leiaf 13 mlynedd dan glo. Mae'n parhau i fod yn y carchar hyd heddiw. Roedd Andrew George yn 16 oed ar ddiwrnod llofruddiaeth Hilda ac mae rhai, gan gynnwys ei theulu, wedi codi cwestiynau am ei euogrwydd. Dywedodd David: "Mae Andrew George yn gwadu fod o wedi lladd hi – dwi'n coelio fo. Os ydy hynny'n wir mae'r dyn 'ma wedi bod yn y carchar am 20 mlynedd ac maen nhw wedi gwrthod ei parôl o ddwywaith neu dair. "Mae Andrew George wedi cyfaddef fod o yn nhŷ Linda Murrell a dwi yn coelio fo pan mae'n dweud fod pobl eraill yna. Dwi ddim yn coelio fod o wedi gyrru hi drwy'r dref. Oedd o'n 16 oed – oedd o ddim yn medru dreifio. "Os ydy o'n dweud y gwir a bod pobl eraill yn y tŷ maen nhw'n gwybod y gwir. "Os hynny mae rhywun arall yn gyfrifol. Y cwestiwn mawr ydy pwy a dyna lle mae'r stori yn explodio i bob math o gynllwynion. "Dwi'n meddwl bod un person yn gwybod be' ydi'r gwir, a'r person yna ydi Andrew George. Mae o'n gwybod." Mae Heddlu Gorllewin Mercia wedi cael cais am ymateb gan BBC Cymru Fyw. Gwyliwch Pwy laddodd Hilda Murrell? ar S4C gyda'r ail ran ar 29 Hydref am 9.00 neu mae'r ddwy ran ar gael ar BBC iplayer.

Hilda Murrell: 'Trio dod â'r gwir i'r wyneb'

Ugain mlynedd wedi llofruddiaeth Hilda Murrell a gyda help datblygiadau technoleg DNA, cafodd Andrew George ei arestio am ei llofruddiaeth a'i ddedfrydu yn 2005 i o leiaf 13 mlynedd dan glo. Mae'n parhau i fod yn y carchar hyd heddiw.

Roedd Andrew George yn 16 oed ar ddiwrnod llofruddiaeth Hilda ac mae rhai, gan gynnwys ei theulu, wedi codi cwestiynau am ei euogrwydd.

Dywedodd David: "Mae Andrew George yn gwadu fod o wedi lladd hi – dwi'n coelio fo. Os ydy hynny'n wir mae'r dyn 'ma wedi bod yn y carchar am 20 mlynedd ac maen nhw wedi gwrthod ei parôl o ddwywaith neu dair.

"Mae Andrew George wedi cyfaddef fod o yn nhŷ Linda Murrell a dwi yn coelio fo pan mae'n dweud fod pobl eraill yna. Dwi ddim yn coelio fod o wedi gyrru hi drwy'r dref. Oedd o'n 16 oed – oedd o ddim yn medru dreifio.

"Os ydy o'n dweud y gwir a bod pobl eraill yn y tŷ maen nhw'n gwybod y gwir.

"Os hynny mae rhywun arall yn gyfrifol. Y cwestiwn mawr ydy pwy a dyna lle mae'r stori yn explodio i bob math o gynllwynion.

"Dwi'n meddwl bod un person yn gwybod be' ydi'r gwir, a'r person yna ydi Andrew George. Mae o'n gwybod."

Mae Heddlu Gorllewin Mercia wedi cael cais am ymateb gan BBC Cymru Fyw.

Gwyliwch Pwy laddodd Hilda Murrell? ar S4C gyda'r ail ran ar 29 Hydref am 9.00 neu mae'r ddwy ran ar gael ar BBC iplayer.

Related Articles