Technology

Mam yn gwerthu ei thŷ i dalu am lawdriniaeth ei babi yn America

Wrth i Ollie dyfu, dywedodd Jasmin y byddai'n rhoi mwy o bwysau ar ei galon, ac felly mae hi'n gobeithio gallu mynd i California "cyn gynted â phosibl". "Bydd y dirywiad araf yn digwydd, ond mae yna hefyd y posibilrwydd y bydd yn dal haint, neu niwmonia neu rywbeth, a bydd ei gorff methu ymdopi," meddai. Dywedodd Jasmin ei fod yn "gyd-ddigwyddiad" bod Ollie wedi cael diagnosis yn bythefnos oed wrth iddo fynd am archwiliad ar ôl cael clefyd melyn hir. Cafodd Ollie ei yrru i'r Uned Gofal Dwys Pediatrig oherwydd bod lefelau ocsigen ei waed yn isel. "Roedd o'n un o'r genedigaethau anoddach y gallwch chi eu dychmygu, ro'n i'n dal yn gwella yn gorfforol a ro'n i'n meddwl 'o wel, o leiaf mae gen i fy mabi'. "Ond y diwrnod nesaf fe wnaethon nhw ddarganfod fod ganddo gyflwr prin ar ei galon. Roedd o'r amser gwaethaf yn fy mywyd."

Mam yn gwerthu ei thŷ i dalu am lawdriniaeth ei babi yn America

Wrth i Ollie dyfu, dywedodd Jasmin y byddai'n rhoi mwy o bwysau ar ei galon, ac felly mae hi'n gobeithio gallu mynd i California "cyn gynted â phosibl".

"Bydd y dirywiad araf yn digwydd, ond mae yna hefyd y posibilrwydd y bydd yn dal haint, neu niwmonia neu rywbeth, a bydd ei gorff methu ymdopi," meddai.

Dywedodd Jasmin ei fod yn "gyd-ddigwyddiad" bod Ollie wedi cael diagnosis yn bythefnos oed wrth iddo fynd am archwiliad ar ôl cael clefyd melyn hir.

Cafodd Ollie ei yrru i'r Uned Gofal Dwys Pediatrig oherwydd bod lefelau ocsigen ei waed yn isel.

"Roedd o'n un o'r genedigaethau anoddach y gallwch chi eu dychmygu, ro'n i'n dal yn gwella yn gorfforol a ro'n i'n meddwl 'o wel, o leiaf mae gen i fy mabi'.

"Ond y diwrnod nesaf fe wnaethon nhw ddarganfod fod ganddo gyflwr prin ar ei galon. Roedd o'r amser gwaethaf yn fy mywyd."

Related Articles