Articles by Elliw Gwawr

2 articles found

Y Gyllideb: 'Pob adran allweddol i gael mwy o arian'
Technology

Y Gyllideb: 'Pob adran allweddol i gael mwy o arian'

Bydd gwariant ar y rhan fwyaf o wasanaethau cyhoeddus yn cynyddu ychydig dros 2% ar gyfer 2026-2027, yn ôl cynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru. Y gwasanaeth iechyd, yn ogystal â'r adran llywodraeth leol a thai, yw'r prif enillwyr gyda chynnydd o 2.5% a 2.3%. Wrth gyhoeddi'r gyllideb ddrafft, dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, fod y cynlluniau gwariant yma'n "dangos sut rydyn ni'n diogelu'r gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw fwyaf". Ar hyn o bryd mae chwyddiant yn 3.8% ond mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR), yn rhagweld y bydd chwyddiant yn agosach at 2% y flwyddyn nesaf. Ar ôl colli isetholiad Caerffili, does gan Lywodraeth Llafur Cymru ddim digon o aelodau yn y Senedd i basio cyllideb ar eu pen eu hunain, ac felly bydd rhaid dod i gytundeb gydag o leiaf dau aelod o'r gwrthbleidiau. Dywedodd Mr Drakeford: "Rydyn ni'n parhau i fod yn agored i weithio gyda phleidiau eraill yn y Senedd i greu cyllideb fwy uchelgeisiol byth."

Y Blaid Lafur ddim yn gweld chwalfa isetholiad fel 'blip' - Carwyn Jones
Technology

Y Blaid Lafur ddim yn gweld chwalfa isetholiad fel 'blip' - Carwyn Jones

Wrth ddadansoddi'r canlyniadau ar Dros Frecwast, dywedodd Vaughan Roderick, Golygydd Materion Cymreig y BBC, fod angen i ni "beidio ag anghofio" am y canlyniad i'r blaid Geidwadol. "Mae'r Ceidwadwyr wedi dod yn ail yng Nghaerffili nifer o weithiau," meddai. "Ma' tref Caerffili ei hun yn lle eithaf llewyrchus, dosbarth canol, pobl yn cymudo i Gaerdydd. "Ma' canlyniad y Ceidwadwyr o 2%, fysen i'n awgrymu hyd yn oed yn fwy o gywilydd arnyn nhw nac yw'r bleidlais Lafur." Ond wrth sôn am hanes Llafur yng Nghaerffili, dywedodd fod "dim canlyniad tebyg i hwn wedi bod yng Nghaerffili ers i'r un ohonom ni ddod i'r byd 'ma". Fe esboniodd fod canlyniad Reform UK yn "ddigon parchus o'i gymharu â'r hyn mae Reform a'u rhagflaenwyr nhw, Plaid Brexit a UKIP, wedi cael yng Nghaerffili yn y gorffennol." Ond dywedodd fod "Reform wirioneddol yn credu bo' nhw am ennill ddoe, does dim dwywaith am hynny".