Tuesday, October 28, 2025
Cardiff University / Prifysgol Caerdydd

Internal Applicants Only - Project Officer - Employer Engagement

Posted: Oct 19, 2025

Job Description

Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd. Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda’r brifysgol.Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Swyddog Prosiect – Ymgysylltu â ChyflogwyrYdych chi'n frwd dros helpu myfyrwyr i gynllunio ar gyfer dyfodol llwyddiannus a chefnogi cyflogwyr gydag ymgyrchoedd recriwtio myfyrwyr a graddedigion?Mae deiliad y rôl hon yn gyfrifol am gyflwyno gwasanaethau a gweithgareddau ymgysylltu â chyflogwyr (ar-lein ac wyneb yn wyneb) o fewn Dyfodol Myfyrwyr. Y nod yw gwella profiad myfyrwyr a gwneud y gorau o recriwtio myfyrwyr a graddedigion Prifysgol Caerdydd drwy ymgysylltu â chyflogwyr sy'n amrywio o frandiau byd-eang i fusnesau bach a chanolig lleol.Mae’r Cyfrifoldebau Allweddol Yn CynnwysCynllunio a chyflwyno gweithgareddau recriwtio penodol i'r sector a digwyddiadau cyflogadwyedd yn ganolog ac ar gyfer Ysgol y Gwyddorau Ffisegol a PheiriannegRecriwtio cyflogwyr i fynd i ystod o ffeiriau gyrfaoedd wyneb yn wyneb.Mabwysiadu dull rheoli cyfrifon gan roi cyngor, arweiniad a chymorth i gyflogwyr er mwyn gwneud yn siŵr bod anghenion rhanddeiliaid yn cael eu diwallu.Rhwydweithio â chyflogwyr i ddatblygu perthnasoedd cynhyrchiol a chydweithredol sy'n sicrhau'r canlyniadau cyflogadwyedd mwyaf posibl i'n myfyrwyr ar ôl iddynt raddio.Mae'r rôl hon yn gofyn am sgiliau cyfathrebu a rheoli cyfrifon rhagorol ac yn addas ar gyfer datryswr problemau creadigol sy'n mwynhau rhwydweithio a meithrin perthynas.Dyma gyfle cyffrous i ymuno â thîm prysur a blaengar o fewn Dyfodol Myfyrwyr.Swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) yw hon am gyfnod penodol tan 31 Mawrth 2026.Cyflog: £33,951 – £36,636 y flwyddyn (Gradd 5).Os oes gennych chi ymholiadau anffurfiol ynglŷn â'r swydd, cysylltwch â Jade Smithson-Perring (Rheolwr Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr, e-bost: smithson-perringj@caerdydd.ac.uk)Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig llawer o fanteision rhagorol, gan gynnwys 37 diwrnod o wyliau blynyddol (yn ogystal â gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol i fyny’r raddfa gyflog, a rhagor. Dyma le cyffrous a bywiog i weithio ynddo. Ceir llawer o heriau gwahanol ac mae'n gefnogwr balch o’r Cyflog Byw.Dyddiad cau: Dydd Mawrth, 28 Hydref 2025Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.Prif Ddyletswyddau Cyflwyno rhaglen gyfunol flynyddol o weithgareddau ymgysylltu â chyflogwyr gan gynnwys ffeiriau gyrfaoedd, digwyddiadau panel penodol i'r sector, wythnosau neu ddigwyddiadau â thema, cyflwyniadau, sesiynau sgiliau a sesiynau gwybodaeth, gan sicrhau y gwneir y mwyaf o ymgysylltiad cyflogwyr a myfyrwyr.Mabwysiadu dull rheoli cyfrifon o ddatblygu perthnasoedd newydd a pherthnasau sy'n bodoli eisoes gydag ystod eang o gyflogwyr myfyrwyr a graddedigion a phartneriaid strategol, gan sicrhau bod Prifysgol Caerdydd yn parhau i fod yn Brifysgol darged ar gyfer recriwtiaid.Cynnig cyngor ac arweiniad proffesiynol ar weithgareddau adeiladu brand a recriwtio effeithiol gan gyflogwyr yn ganolog ac ar gyfer Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg.Gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid mewnol ac allanol, defnyddio craffter a chreadigrwydd i awgrymu’r camau mwyaf addas lle bo’n briodol, a sicrhau bod materion cymhleth a chysyniadol yn cael eu deall.Defnyddio data i ymchwilio a dadansoddi tueddiadau a datblygiadau ym maes ymgysylltu â chyflogwyr a’r dirwedd recriwtio graddedigion, gan greu adroddiadau argymhelliad i lywio’r ddarpariaeth.Gwneud yn siŵr bod y ddarpariaeth o weithio gyda chyflogwyr i’w hannog i recriwtio ein myfyrwyr yn cael ei chyflwyno i’r sefydliad, yn ogystal â newid yr hyn a gaiff ei ddarparu yn unol â gofynion y cwsmer, gan sicrhau boddhad myfyrwyr.Cydweithio ag eraill i wneud argymhellion ar gyfer datblygiadau prosesau a gweithdrefnau sydd eisoes ar waith ar gyfer digwyddiadau cyflogwyr a recriwtio graddedigion.Meithrin perthynas waith â phwyntiau cyswllt allweddol, gan ddatblygu cysylltiadau cyfathrebu priodol ag Ysgolion/Cyfarwyddiaethau'r Brifysgol a chyrff allanol yn ôl yr angen.Cydweithio â rhanddeiliaid mewnol i nodi ac ymgysylltu â chyflogwyr addas a all gyfrannu at gyflwyno'r cwricwlwm, gan gefnogi integreiddio cyflogadwyedd yn y cwricwlwmGoruchwylio timau prosiect penodol o bryd i'w gilydd i gyflawni amcanion allweddol, yn benodol timau o fyfyrwyr sy'n gweithio i wneud yn siŵr bod llais y myfyrwyr yn cael ei ystyried ym mhob gweithgaredd ymgysylltu â chyflogwyr.Cyfrannu at ddatblygu mentrau Dyfodol Myfyrwyr sy'n cael eu cynnig o fewn y gwasanaeth ac sy'n cael effaith ledled y brifysgol. Er enghraifft, mentrau amrywiaeth, diwrnod agored a graddio.Cyflawni ystod o ddyletswyddau gweinyddol i gefnogi'r adran.Dyletswyddau CyffredinolSicrhau eich bod yn deall pwysigrwydd cyfrinachedd wrth ymgymryd â'r holl ddyletswyddau.Cadw at bolisïau’r Brifysgol ar Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac AmrywiaethCyflawni dyletswyddau eraill o bryd i'w gilydd nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy’n cyd-fynd â gofynion y swydd Oherwydd natur y rôl hon, cynhelir rhai gweithgareddau ar ddydd Sadwrn neu gyda’r hwyr, felly bydd gofyn i ddeiliad y swydd weithio ar ddydd Sadwrn a’r tu allan i oriau swyddfa ar adegau.Nodyn PwysigMae'n bolisi gan y Brifysgol i ddefnyddio manyleb yr unigolyn fel adnodd allweddol wrth ddethol pobl ar gyfer y rhestr fer. Dylai ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni'r HOLL feini prawf hanfodol, yn ogystal â'r meini prawf dymunol, lle bo'n berthnasol.Fel rhan o’ch cais, gofynnir i chi roi'r dystiolaeth hon mewn datganiad i ategu'r cais.Gwnewch yn siŵr bod eich tystiolaeth yn cyfateb i'r meini prawf isod sydd wedi' rhifo.Ystyrir eich cais ar sail y wybodaeth y byddwch yn ei rhoi o dan bob elfen.Wrth atodi’r datganiad i ategu eich cais i broffil eich cais, cofiwch roi cyfeirnod y swydd wag yn nheitl y ddogfen e.e. Datganiad Ategol ar gyfer 20853BRMeini Prawf HanfodolCymwysterau ac AddysgGradd/NVQ 4 neu brofiad/aelodaeth broffesiynol gyfatebolGwybodaeth, Sgiliau a PhrofiadProfiad sylweddol o weithio o fewn amgylchedd rheoli cyfrifon neu ddigwyddiadauGallu dangos gwybodaeth broffesiynol am gyflogadwyedd a gweithio gyda recriwtwyr graddedigion i roi cyngor ac arweiniad i gwsmeriaid mewnol ac allanol Y gallu i sefydlu systemau a gweithdrefnau swyddfa safonol a gwneud gwelliannau fel y bo'n briodol.Gwasanaethu i Gwsmeriaid, Cyfathrebu a Gweithio’n Rhan o DîmY gallu i gyfleu gwybodaeth gysyniadol fanwl a chymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol i ystod eang o boblTystiolaeth o’r gallu i ystyried anghenion cwsmeriaid ac addasu'r gwasanaeth yn unol â hynny er mwyn cyflwyno gwasanaeth o safonCynllunio, Dadansoddi a Datrys ProblemauTystiolaeth o’r gallu i ddatrys problemau sylweddol drwy gymryd y cam cyntaf a bod yn greadigol, ac adnabod a chynnig atebion ymarferol a datrys problemau sydd ag ystod o ganlyniadau posibl.Tystiolaeth o fod â gwybodaeth amlwg am ddatblygiadau allweddol yn y ddisgyblaeth arbenigolTystiolaeth o allu i weithio heb oruchwyliaeth i derfynau amser, a chynllunio a phennu blaenoriaethau ar gyfer eich gwaith eich hun a gwaith pobl eraill, yn ogystal â monitro cynnydd.ArallParodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant ac i ddatblygu ymhellach.Meini prawf defnyddiolCymhwyster Ôl-raddedig/ProffesiynolProfiad o weithio ym myd addysg uwch.Rhuglder yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar

Job Application Tips

  • Tailor your resume to highlight relevant experience for this position
  • Write a compelling cover letter that addresses the specific requirements
  • Research the company culture and values before applying
  • Prepare examples of your work that demonstrate your skills
  • Follow up on your application after a reasonable time period

Related Jobs