Internal Only - Internal Communications Officer – Cyber Programme
Posted: Oct 19, 2025
Job Description
Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd. Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda’r brifysgol.Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Swyddog Cyfathrebu Mewnol — Rhaglen SeiberBydd y swydd hon yn chwarae rhan hanfodol wrth gyfathrebu effaith a goblygiadau Rhaglen Seiber y brifysgol i'n staff a'n myfyrwyr.Ac yntau’n rhan o dîm Cyfathrebu Mewnol y Brifysgol, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n agos gyda’r tîm TG, y tîm Cyfathrebu TG a’r tîm Cyfathrebu Digidol. Disgwylir i ddeiliad y swydd weithio'n agos yn y tîm matrics hwn i gyflwyno safbwynt gydgysylltiedig ar y modd y mae Rhaglen Seiber y Brifysgol yn cael ei chyflawni.Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd wneud yn siŵr bod yr holl gyfathrebu ac ymgysylltu cysylltiedig:Yn berthnasol i'r holl staff a myfyrwyr, neu wedi'u targedu i grwpiau wedi'u segmentu, gan ddibynnu ar eu hanghenion, eu gwybodaeth a/neu eu diddordebauYn amserol – yn strategol ac yn ymatebol fel ei gilydd, gan ddibynnu ar flaenoriaethau'r BrifysgolYn defnyddio ein prif sianeli a sianeli eilaidd y mae staff a myfyrwyr yn eu gweld, gan adlewyrchu anghenion y gynulleidfa, arferion caffael gwybodaeth ac arferion gorauYn adlewyrchu arweiniad ac arferion gorau y tîm Cyfathrebu Mewnolyn defnyddio'r ystod lawn o noddwyr sydd ar gael.Mae’r swydd hon yn un amser llawn am gyfnod penodol tan 12 mis.Cyflog: £33,951 - £36,636 y flwyddyn (Gradd 5). Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dechrau ar waelod y raddfa fel arfer.Dyddiad cau: Dydd Mawrth, 28 Hydref 2025Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.Prif DdyletswyddauGweithio gyda’r tîm Cyfathrebu Mewnol a’r tîm Cyfathrebu Digidol i gymryd cyfrifoldeb am gyfathrebu negeseuon am Raglen Seiber y brifysgol, i gefnogi strategaeth gyfathrebu mewnol y Brifysgol ac yn unol â'r dull cyfathrebu ac ymgysylltu.Creu deunydd cyfathrebu a chynnwys digidol o ansawdd uchel, sy’n mynnu sylw ac sy’n effeithiol. Newid ac addasu’r dull cyflwyno yn unol â gofynion cwsmeriaid. Gweithio'n agos gyda chydweithwyr yn y tîm cyfathrebu mewnol i sicrhau bod cyfathrebu’r Rhaglen Seiber yn cysylltiedig â negeseuon cyfathrebu arferol a/neu gynlluniau cyfathrebu mawr eraillMonitro, gwerthuso ac adrodd ar weithgareddau cyfathrebu cysylltiedig er mwyn sicrhau gwelliant parhaus i gyfathrebu cysylltiedig, a'r elw mwyaf posibl ar adnoddau. Newid y cyflwyniad yn rhagweithiol yn unol ag adborth meintiol a / neu ansoddol o amrywiaeth o ffynonellau o arolygon ffurfiol i gyfryngau cymdeithasolRhoi cyngor ac arweiniad proffesiynol ynghylch prosesau a gweithdrefnau cyfathrebu mewnol a cynhyrchu cynnwys digidol i gwsmeriaid mewnol ac allanol, gan ddefnyddio crebwyll a chreadigrwydd i awgrymu’r camau gweithredu gorau lle bo’n briodol, a sicrhau bod materion cymhleth a chysyniadol yn cael eu deall. Cydweithio ag eraill i argymell ffyrdd o ddatblygu prosesau a gweithdrefnau sefydledig Sefydlu perthynas waith â chysylltiadau allweddol, gan ddatblygu cysylltiadau cyfathrebu priodol ag Ysgolion/Cyfadrannau’r brifysgol a chyrff allanol yn ôl yr angen. Creu neu ymuno â gweithgorau penodol gan gydweithwyr o bob rhan o’r Brifysgol i gyflawni amcanion cyfathrebu perthnasolGoruchwylio timau prosiect penodol yn achlysurol er mwyn cyflawni amcanion allweddol. Cyfarwyddo gweithwyr eraill ar draws y brifysgol a’u harwain ym meysydd cynhyrchu cynnwys digidol a chyfathrebu yn ôl yr angen. Cyflawni ystod o ddyletswyddau gweinyddol i gefnogi'r adran.Dyletswyddau CyffredinolSicrhau bod dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd yn sail i’r holl waith. Paratoi / cyfrannu at adroddiadau gwerthuso misol ar gyfathrebiadau i'w hadolygu gan uwch reolwyrCadw at bolisïau'r Brifysgol o ran y Gymraeg, Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac AmrywiaethYmgymryd â datblygiad personol a phroffesiynol sy’n briodol i berfformiad ac a fydd yn ei wellaCyflawni dyletswyddau eraill o bryd i’w gilydd nad ydyn nhw wedi’u cynnwys uchod, ond sy’n cyd-fynd â’r rôl.Meini Prawf HanfodolCymwysterau ac AddysgGradd/NVQ 6 neu brofiad/aelodaeth broffesiynol gyfatebolGwybodaeth, Sgiliau a PhrofiadProfiad sylweddol o ymgymryd â rôl cyfathrebu, gyda phrofiad arbenigol a diweddar o gynhyrchu cynnwys ac asedau cyfathrebu digidol (gan gynnwys gwybodaeth eang ynghylch ysgrifennu ar gyfer platfformau ar-lein, systemau rheoli cynnwys, a phrofiad y defnyddiwr). Gallu dangos gwybodaeth broffesiynol ym meysydd cyfathrebu a chynhyrchu cynnwys digidol, gan eu galluogi i roi cyngor ac arweiniad i gwsmeriaid mewnol ac allanol.Profiad diamheuol o ysgrifennu swm sylweddol o destun bob dydd, gan greu testunau deniadol a chywir i derfynau amser byr, i'w defnyddio mewn negeseuon cyfathrebu digidol, print a fideo i ystod o gynulleidfaoeddGwasanaethau i Gwsmeriaid, Cyfathrebu a Gweithio mewn TîmGallu cyfleu gwybodaeth gysyniadol fanwl, gymhleth a thechnegol yn effeithiol ac yn broffesiynol i ystod eang o boblTystiolaeth o’r gallu i ystyried anghenion cwsmeriaid ac addasu er mwyn cyflwyno gwasanaeth o safon.Cynllunio, Dadansoddi a Datrys ProblemauTystiolaeth o’r gallu i ddatrys problemau dyrys drwy gymryd y cam cyntaf a bod yn greadigol, canfod a chynnig atebion ymarferol ac arloesolTystiolaeth o wybodaeth amlwg ynghylch datblygiadau allweddol ym maes cyfathrebu a chynhyrchu cynnwys digidol.Tystiolaeth o allu i weithio heb oruchwyliaeth yn unol â therfynau amser, gan gynllunio a phennu blaenoriaethau ar gyfer eich gwaith eich hun, a monitro cynnydd. Arall Parodrwydd i ymgymryd â rhagor o hyfforddiant a datblygiad. Meini Prawf DymunolProfiad o weithio ym maes addysg uwchRhugl yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar.Cymhwyster ôl-raddedig neu broffesiynol.
Job Application Tips
- Tailor your resume to highlight relevant experience for this position
- Write a compelling cover letter that addresses the specific requirements
- Research the company culture and values before applying
- Prepare examples of your work that demonstrate your skills
- Follow up on your application after a reasonable time period