Cardiff University / Prifysgol Caerdydd

Internal Only - Research Associate (Research Ethics and Law)

Posted: 2 minutes ago

Job Description

Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd. Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda’r brifysgol.Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Cydymaith Ymchwil (Moeseg Ymchwil a'r Gyfraith)Canolfan Treialon Ymchwil (CTR)Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a BywydMae’r Ganolfan Treialon Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd yn gymuned fawr, ryngwladol o ymchwilwyr, staff y gwasanaethau proffesiynol a myfyrwyr o ystod amrywiol o gefndiroedd.Rydyn ni'n mynd i'r afael â chlefydau a phryderon iechyd mawr ein hoes trwy ffurfio partneriaethau ag ymchwilwyr a meithrin perthnasoedd parhaol â'r cyhoedd. Gallwch ddysgu rhagor am y Ganolfan ac am weithio gyda ni yma.Dyma gyfle gwych i ddau Gydymaith Ymchwil (Gradd 6) ymuno â phrosiect rhyngddisgyblaethol newydd a ariennir gan Ymddiriedolaeth Wellcome, sef 'Mynd i'r afael â heriau sy'n gysylltiedig â chydsynio i wella cynwysoldeb mewn ymchwil (ACCORD)' o dan arweiniad y Ganolfan hon sydd wedi’i chofrestru â UKCRC. Yn y swydd hon, byddwch yn cynnal gwaith ymchwil ym meysydd moeseg ymchwil a datblygiad ymyriadau ar sail ymddygiad ac yn cyfrannu at berfformiad ymchwil cyffredinol y Ganolfan a'r Brifysgol, gan gynnal gwaith ymchwil a fydd yn arwain at gyhoeddiadau o safon. Byddwch hefyd yn ymgysylltu â rhanddeiliad cyhoeddus, ymarfer a pholisi i ddatblygu cynigion ymchwil berthnasol.Byddai'r swydd hon yn addas i unigolyn brwdfrydig sydd â gwybodaeth a dealltwriaeth o lywodraethu, fframweithiau a phrosesau priodol mewn perthynas ag ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol, yn benodol ymchwil sy'n cynnwys oedolion nad oes ganddyn nhw gapasiti i gydsynio, a phrofiad o ymchwil empirig ym maes moeseg ymchwil neu’r gyfraith.Gyda diwylliant o ddatblygiad proffesiynol a gyrfaol parhaus mae gan y Ganolfan hanes rhagorol o helpu pobl i ddatblygu yn y meysydd sydd o ddiddordeb iddynt, gyda llawer yn symud ymlaen i gamau nesaf eu gyrfa yn y Ganolfan ei hun, yn y Brifysgol yn ehangach, neu ymhellach i ffwrdd.Os oes gennych ymholiadau anffurfiol, cysylltwch â Victoria Shepherd (Principal Research Fellow) drwy ffonio:ShepherdVL1@cardiff.ac.uk (0)29 20687641Mae’r swydd hon yn un llawn amser (35 awr yr wythnos), Cyfnod penodol tan 28th Chwefror2034 ac mae ar gael o’r 1 Mawrth 2026Mae'r rhan fwyaf o swyddi ym Mhrifysgol Caerdydd yn gweithredu o dan drefniadau "gweithio cyfunol" ar hyn o bryd, gan roi hyblygrwydd i staff weithio yn rhannol o gartref ac yn rhannol ar gampws y Brifysgol yn dibynnu ar ofynion busnes penodol. Gall trafodaethau ynghylch y trefniadau hyn gael eu cynnal ar ôl penodi'r ymgeisydd llwyddiannus.Cyflog: £41,064 - £46,049 y flwyddyn, pro-rata (Gradd 6)Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig pecyn buddion gwych, sy’n cynnwys 45 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i'r gwaith a chynlluniau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol a mwy. Dyma le cyffrous a bywiog i weithio ynddo, lle byddwch yn wynebu nifer o wahanol heriau. Rydym hefyd yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw.Dyddiad cau: Dydd Iau, 27 Tachwedd 2025Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn y gellir gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Er mwyn helpu ein gweithwyr i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu’r swydd.Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.Mae Prifysgol Caerdydd yn llofnodwr Datganiad San Francisco ar Asesu Ymchwil (DORA), sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau recriwtio a hyrwyddo, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil yn cael ei chyhoeddi ynddo. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn: Responsible research assessment - Research - Cardiff University. Prif SwyddogaethCynnal gwaith ymchwil a chyfrannu at berfformiad ymchwil cyffredinol y Ganolfan a'r Brifysgol, gan gynnal gwaith ymchwil a fydd yn arwain at gyhoeddi gwaith mewn cyfnodolion o safon uchel. Mynnu rhagoriaeth ymchwil ac ysbrydoli eraill i wneud yr un fath.Prif Ddyletswyddau a ChyfrifoldebauYmchwil Cynnal gwaith ymchwil ym maes moeseg ymchwil a’r gyfraith a chyfrannu at berfformiad ymchwil cyffredinol y Ganolfan a'r Brifysgol drwy gynhyrchu allbynnau y gellir eu mesur gan gynnwys gwneud ceisiadau am arian, cyhoeddi mewn cynadleddau a chyfnodolion academaidd cenedlaethol, a recriwtio a goruchwylio myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig. Datblygu amcanion ymchwil a chynigion ar gyfer prosiectau ymchwil annibynnol neu ar y cyd, gan gynnwys ceisiadau am gyllid Mynd i gynadleddau/seminarau lleol a chenedlaethol a/neu roi cyflwyniadau yn y rhain yn ôl yr angen Ymgymryd â thasgau gweinyddol sy'n gysylltiedig â'r prosiect ymchwil, gan gynnwys cynllunio a threfnu'r prosiect a rhoi’r gweithdrefnau sydd eu hangen ar waith er mwyn sicrhau bod adroddiadau cywir yn cael eu cyflwyno’n brydlon Paratoi ceisiadau moeseg ymchwil a llywodraethu ymchwil fel sy’n briodol Sicrhau bod yr astudiaethau’n cael eu cynnal, gan wneud addasiadau’n unol â newidiadau yn y llwyth gwaith a gofynion astudio Adolygu a syntheseiddio llenyddiaeth ymchwil bresennol yn y maes Cymryd rhan yng ngweithgareddau ymchwil y ganolfan. Datblygu a chreu rhwydweithiau yn y Brifysgol a’r tu allan iddi er mwyn dylanwadu ar benderfyniadau, ystyried gofynion ymchwil yn y dyfodol a rhannu syniadau ar gyfer ymchwil er budd prosiectau ymchwil Sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud a'i gofnodi mewn ffordd sy'n cydymffurfio â'r rheoliadau, a'i fod yn barod ar gyfer archwiliadau rheolaiddArall Cydweithio’n effeithiol â chyrff diwydiannol, masnachol a chyhoeddus, sefydliadau proffesiynol, sefydliadau academaidd eraill ac ati, a hynny’n rhanbarthol ac yn genedlaethol i godi proffil y Ganolfan, meithrin partneriaethau strategol werthfawr a chwilio am gyfleoedd i gydweithio ar draws ystod o weithgareddau. Bydd disgwyl i’r gweithgareddau hyn gyfrannu at y Ganolfan a gwella ei phroffil rhanbarthol a chenedlaethol. Datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol mewn modd priodol a fydd yn gwella perfformiad. Cymryd rhan mewn gwaith gweinyddol a gweithgareddau i hyrwyddo’r Ganolfan a’i gwaith i’r Brifysgol ehangach a’r byd allanol Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy’n cyd-fynd â gofynion y swydd.PWYSIG: Tystiolaeth o'r Meini PrawfPolisi Prifysgol Caerdydd yw defnyddio manyleb yr unigolyn yn adnodd allweddol wrth ddethol pobl ar gyfer y rhestr fer. Felly, mae’n rhaid i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni'r HOLL feini prawf hanfodol, a'r meini prawf dymunol, lle bo'n berthnasol.Yn rhan o'ch cais, gofynnir i chi gyflwyno'r dystiolaeth hon drwy ddatganiad ategol. Gofalwch bod eich tystiolaeth yn cyfateb i'r meini prawf a amlinellir ym manyleb yr unigolyn. Ystyrir eich cais ar sail y wybodaeth a roddwch ar gyfer pob maen prawf.Wrth roi’r datganiad ategol ynghlwm wrth broffil eich cais, cofiwch roi cyfeirnod y swydd wag yn nheitl y ddogfen: 20820BRBydd eich cais mewn perygl o beidio â chael ei symud ymlaen os nad ydych yn dangos tystiolaeth eich bod wedi bodloni'r holl feini prawf hanfodol. Mae'r ysgol yn croesawu cyflwyno CV i gyd-fynd â'r dystiolaeth ar gyfer meini prawf y swydd.Meini Prawf HanfodolCymwysterau ac Addysg Gradd ôl-raddedig ar lefel PhD mewn maes cysylltiedig neu brofiad cyfatebol/perthnasol sy’n gysylltiedig ag ymarfer neu bolisiGwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad Arbenigedd sefydledig a phortffolio profedig o ymchwil a/neu brofiad perthnasol sy’n gysylltiedig â pholisi/ymarfer mewn un maes neu fwy sy'n berthnasol iawn i foeseg neu’r gyfraith neu lywodraethu ymchwil Gwybodaeth a dealltwriaeth o lywodraethu, systemau a phrosesau priodol o ran ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol, yn benodol ymchwil sy'n cynnwys oedolion nad oes ganddyn nhw gapasiti i gydsynio Gallu diamheuol i gyhoeddi mewn cyfnodolion cenedlaethol/rhyngwladol, cynadleddau cenedlaethol/rhyngwladol a/neu sicrhau allbynnau ymchwil eraill Gwybodaeth a dealltwriaeth o gyllid ymchwil cystadleuol er mwyn gallu paratoi ceisiadau i’w cyflwyno i gyrff cyllidoCyfathrebu a Gweithio’n Rhan o Dîm Gallu diamheuol i gyfathrebu'n effeithiol ac yn argyhoeddiadol Y gallu i oruchwylio gwaith pobl eraill i arwain ymdrechion y tîm ac ysgogi unigolionArall Gallu diamheuol i fod yn greadigol ac yn arloesol a gweithio’n rhan o dîm yn y gwaithMeini Prawf Dymunol Y gallu i oruchwylio myfyrwyr ymchwil Tystiolaeth o gydweithio â byd diwydiant, y GIG neu faes gofal cymdeithasol Gallu diamheuol i weithio heb oruchwyliaeth ago Tystiolaeth o’r gallu i gyfrannu at rwydweithiau mewnol ac allanol, eu datblygu a'u defnyddio i wella gweithgareddau ymchwil y Ganolfan. Ymrwymiad i gynnwys cleifion a’r cyhoedd mewn modd uchel ei ansawdd

Job Application Tips

  • Tailor your resume to highlight relevant experience for this position
  • Write a compelling cover letter that addresses the specific requirements
  • Research the company culture and values before applying
  • Prepare examples of your work that demonstrate your skills
  • Follow up on your application after a reasonable time period

You May Also Be Interested In