Research Associate - WCPP
Posted: 5 hours ago
Job Description
Cydymaith Ymchwil Canolfan Polisi Cyhoeddus CymruMae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, sy’n cael ei hariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a Phrifysgol Caerdydd, yn pontio’r bwlch rhwng y byd academaidd a llunwyr polisïau/ymarferwyr trwy gynhyrchu a defnyddio tystiolaeth o ymchwil sy’n gwella penderfyniadau am bolisïau a gwasanaethau cyhoeddus.Daw staff y Ganolfan o sawl cefndir gwahanol – ymhlith y rhain mae’r byd academaidd, y gwasanaeth sifil, y gwasanaeth iechyd, llywodraeth leol, melinau trafod a'r sector gwirfoddol.Mae'r Ganolfan yn aelod o rwydwaith What Works y DU. Mae’r Ganolfan yn cydweithio ag ymchwilwyr blaenllaw o bob cwr o’r DU ac yn rhyngwladol i gynhyrchu, cywain a defnyddio tystiolaeth ymchwil y gellir ei defnyddio i fynd i’r afael â heriau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol dybryd. Gall y staff fanteisio ar y cyfle i weithio gydag uwch-lunwyr polisïau ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus sy'n eu galluogi i sicrhau effaith eu hymchwil yn genedlaethol ac yn lleol.Rydyn ni am recriwtio unigolyn arbennig i gyfrannu at ein gwaith gyda gwasanaethau cyhoeddus a Llywodraeth Cymru. Mae’r swydd yn gyfle unigryw i reoli a gwneud ymchwil polisi o safon uchel, gan weithio’n agos gydag ymchwilwyr a llunwyr polisïau blaenllaw sydd wrth wraidd datblygiadau a dadleuon polisi cyfredol, yn enwedig wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldebau, yr amgylchedd a sero net, a lles cymunedol.Mae’n rhaid ichi feddu ar ddealltwriaeth dda o bolisi cyhoeddus; y gallu i weithio'n uniongyrchol gydag arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus; ymrwymiad i ymchwil o safon sy'n berthnasol i fyd polisi; sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol; a'r gallu i weithio’n rhan o dîm ehangach y Ganolfan.Mae'r swydd ar gael tan 31 Mawrth 2028 gyda'r posibilrwydd o'i hadnewyddu wedi hynny yn amodol ar gyllid pellach. Mae'r Ganolfan yn cynnig gweithle ysgogol a chefnogol gyda threfniadau gweithio hyblyg; cynllun pensiwn hael y Brifysgol; cyfoeth o gyfleoedd hyfforddi; a chartref yn adeilad newydd Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SBARC) ar Gampws Arloesi Caerdydd gwerth £300 miliwn. Mae'r Ganolfan yn cefnogi gweithio hybrid a bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod ar gael i weithio o'i swyddfeydd yng Nghaerdydd un neu ddau ddiwrnod yr wythnos (gyda rhywfaint o hyblygrwydd). Byddwn ni’n ystyried ceisiadau i ymuno â’r Ganolfan ar secondiad am 12 mis o leiaf.Gofynnir i ymgeiswyr ateb y cwestiynau canlynol ar ddechrau eu datganiad ategol. Dylai eich ateb fod mor gryno â phosibl ac ni ddylai fod yn hwy na 200 gair.Cwestiwn 1: Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn darparu tystiolaeth i alluogi awdurdodau lleol, byrddau iechyd a chyrff cyhoeddus eraill i ddod o hyd i ffyrdd o wella penderfyniadau am bolisïau a gwasanaethau cyhoeddus.Sut byddech chi'n mynd ati i ddod o hyd i’r materion polisi y dylem weithio arnyn nhw gyda’r sefydliadau uchod dros y chwe mis nesaf? Pa feini prawf y byddech chi'n eu defnyddio i roi'r materion a ddewiswyd yn nhrefn blaenoriaeth?Cwestiwn 2: Mae'r Ganolfan yn gwneud y rhan fwyaf o'i gwaith mewn partneriaeth ag arbenigwyr o brifysgolion a sefydliadau ymchwil eraill. Dychmygwch fod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi gofyn i ni ddarparu tystiolaeth ar yr hyn y gall gwasanaethau lleol ei wneud i fynd i’r afael â thlodi yn eu hardal. Mae angen adroddiad arnyn nhw ymhen tri mis i lywio eu Cynllun Lles.Sut byddech chi'n dod o hyd i'r arbenigwyr gorau i weithio gyda ni ar y prosiect hwn? Pa rwystrau posibl y gallech ddod ar eu traws wrth sicrhau eu syniadau a sut byddech chi'n goresgyn y rhain? Sut byddech chi’n sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn ymgysylltu â’r prosiect?Cyflog: £40,497 - £45,413 y flwyddyn, pro-rata (Gradd 6).Dyddiad hysbysebu: Dydd Iau, 23 Hydref 2025Dyddiad cau: Dydd Iau, 20 Tachwedd 2025Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad ar Asesu Ymchwil (DORA) San Francisco, sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Ceir rhagor o wybodaeth yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol - Ymchwil - Prifysgol CaerdyddPrif Swyddogaeth Rheoli, comisiynu, cynnal a defnyddio tystiolaeth ymchwil ac arbenigedd o ansawdd uchel sy’n cynorthwyo arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus a gweinidogion Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â heriau polisi dybryd ac sy’n annog diwylliant o ddefnyddio tystiolaeth mewn gwasanaethau cyhoeddus.Prif Ddyletswyddau a ChyfrifoldebauYmchwil Cyfrannu at nodi anghenion tystiolaeth gwasanaethau cyhoeddus a llunwyr polisi yng Nghymru. Rheoli prosesau i nodi a gwerthuso prosiectau ymchwil posibl ar gyfer Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a gwasanaethau cyhoeddus. Gweithio gydag arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus mewn ffyrdd newydd ac arloesol i adolygu a chyfuno tystiolaeth ymchwil i nodi canfyddiadau ac argymhellion sy’n berthnasol i bolisi. Comisiynu, rheoli a sicrhau ansawdd ymchwil a gomisiynir gan arbenigwyr polisi. Cyfrannu at ddylunio a chyflawni mentrau i ymgorffori’r defnydd o dystiolaeth mewn gwasanaethau cyhoeddus. Lledaenu canfyddiadau ymchwil i arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus, llunwyr polisi ac eraill trwy adroddiadau difyr, briffiau polisi, blogiau, cyfryngau cymdeithasol a phodlediadau. Dylunio a hwyluso gweithdai, cyfarfodydd bord gron a digwyddiadau gydag amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys arbenigwyr academaidd, arbenigwyr yn ôl profiad, arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus, llunwyr polisi a rhanddeiliaid eraill. Hybu ymwybyddiaeth o waith y ganolfan ac ymgysylltu â’r gwaith hwnnw ymhlith llunwyr polisi, ymarferwyr a rhwydweithiau ymchwil. Cyfrannu at weithgareddau eraill sy'n gwella effaith ymchwil, megis ymgysylltu â chyfryngau lleol a chenedlaethol. Cymryd rhan mewn rhwydweithiau y tu mewn a’r tu allan i’r brifysgol er mwyn dylanwadu ar benderfyniadau, chwilio am ofynion ymchwil yn y dyfodol a rhannu syniadau ymchwil er budd prosiectau ymchwil.Arall Ymgymryd â datblygiad personol a phroffesiynol sy’n addas o ran perfformiad ac a fydd yn gwella perfformiad. Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy'n cyd-fynd â'r swyddGWYBODAETH AM Y CAISNodyn pwysig: Polisi'r Brifysgol yw defnyddio manyleb y person fel arf allweddol ar gyfer rhestru byr. Dylai ymgeiswyr ddangos eu bod yn bodloni'r HOLL feini prawf hanfodol yn ogystal â'r rhai dymunol, lle bo hynny'n berthnasol. Fel rhan o'r broses ymgeisio, gofynnir i chi ddarparu'r dystiolaeth hon drwy ddatganiad ategol. Sicrhewch fod y dystiolaeth yr ydych yn ei darparu yn cyfateb i'r meini prawf wedi'u rhifo a amlinellir uchod (20431BR) . Bydd eich cais yn cael ei ystyried yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarperir gennych o dan bob elfen.Ysgol Busnes CaerdyddMae Ysgol Busnes Caerdydd yn ysgol fusnes a rheoli flaenllaw yn y DU, yn cynnal achrediadau AACSB ac AMBA ac yn y 1af safle 1af am ei Hamgylchedd Ymchwil a'i 2il ar Bŵer Ymchwil (REF2021). Mae gan yr Ysgol bwrpas Gwerth Cyhoeddus ac mae'n canolbwyntio ar gyd-greu addysg a gwybodaeth o ansawdd uchel, rhyngddisgyblaethol sy'n darparu gwerth economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol. Mae gweithgareddau'r Ysgol yn gogwyddo tuag at bum Her Fawr: Gwaith gweddus, economïau teg a chynaliadwy, sefydliadau yn y dyfodol, llywodraethu da, ac arloesedd cyfrifol.Meini Prawf HanfodolCymwysterau ac Addysg Gradd ôl-raddedig mewn maes pwnc cysylltiedig, neu brofiad proffesiynol cyfatebol perthnasol.Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad Arbenigedd sefydledig a phortffolio â thystiolaeth o ymchwil polisi a/neu reoli ymchwil, casglu gwybodaeth yn effeithiol ac effaith ymchwil. Y gallu amlwg i ymgysylltu â gwasanaethau cyhoeddus a/neu lywodraeth mewn ffyrdd arloesol i annog y defnydd o dystiolaeth i wella polisïau ac arferion. Dealltwriaeth o'r rhwystrau ynghlwm wrth ddefnyddio tystiolaeth mewn gwasanaethau cyhoeddus a/neu lywodraeth ac o ddulliau ymarferol sy’n goresgyn y rhain. Profiad o ddatblygu a sicrhau’r gwaith o ymgysylltu â rhanddeiliaid a rheoli’r gweithgarwch hwn. Gwybodaeth am faterion polisi cyhoeddus cyfredol yng Nghymru a’r tu hwnt.Cyfathrebu a Gweithio Mewn Tîm Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol ac yn argyhoeddiadol – yn ysgrifenedig ac wyneb yn wyneb – ag ystod amrywiol o randdeiliaid gan gynnwys arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus a llunwyr polisïau. Y gallu i weithio'n effeithiol gyda chydweithwyr yn y Ganolfan ac ymchwilwyr yn y brifysgol ehangach a thu hwnt yn ogystal ag arbenigwyr yn ôl profiad a rhanddeiliaid eraill.Arall Y gallu i feithrin a chynnal perthnasoedd cryf â rhanddeiliaid allanol gan gynnwys arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus, gwleidyddion, gweision sifil a llunwyr barn eraill. Y gallu i weithio'n gyflym ar draws ystod o brosiectau a meysydd polisiMeini Prawf Dymunol Profiad o weithio ym maes llywodraeth a/neu’r gwasanaethau cyhoeddus neu gyda’r rhain. Gwybodaeth am lunio polisïau, meddwl drwy systemau, gwyddor gweithredu neu wyddor ymddygiadol. Y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg.
Job Application Tips
- Tailor your resume to highlight relevant experience for this position
- Write a compelling cover letter that addresses the specific requirements
- Research the company culture and values before applying
- Prepare examples of your work that demonstrate your skills
- Follow up on your application after a reasonable time period