News from October 24, 2025

1644 articles found

Turn data into diagrams with MS Visio 2021 — just $14.97
Buddugoliaeth “ysgubol” i Blaid Cymru yng Nghaerffili
Technology

Buddugoliaeth “ysgubol” i Blaid Cymru yng Nghaerffili

Ar ôl wythnosau o ymgyrchu ar draws etholaeth Caerffili, mae Lindsay Whittle wedi ennill un o is-etholiadau pwysicaf yn hanes Cymru. Yn siarad golwg360 funudau ar ôl i’r canlyniad gael ei gadarnhau dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth fod y fuddugoliaeth yn un “ysgubol” i’w blaid, a hynny “dan unrhyw fesur”. “Mae hwn yn etholaeth lle mae Llafur wedi ennill dros ganrif, ac rydym ni wedi cael miloedd mewn mwyafrif heno – a hynny mewn etholiad lle’r oedd pawb yn meddwl ei fod o’n mynd i fod yn agos,” meddai. @golwg360 🗳️ Cyfweliad gyda Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth sy’n disgrifio buddugoliaeth Lindsay Whittle yn is-etholiad Caerffili fel un “ysgubol”. ♬ original sound – golwg360 Bu’r arolygon barn genedlaethol a lleol yn awgrymu bod brwydr agos rhwng Plaid Cymru a Reform UK i fod ar y brig. Yn y diwedd, bu Lindsay Whittle yn curo Llŷr Powell o Reform UK o bron i 4,000 o bleidleisiau. Dyma’r canlyniad llawn: Lindsay Whittle, Plaid Cymru – 15,961 (47.8%) Llŷr Powell, Reform UK – 12,113 (36%) Richard Tunnicliffe, Llafur Cymru – 3,713 (11%) Gareth Potter, Ceidwadwyr Cymreig – 690 (2%) Gareth Hughes, Blaid Werdd – 516 (1.5%) Steve Aicheler, Democratiaid Rhyddfrydol – 497 (1.5%) Anthony Cook, Gwlad – 117 (0.3%) Roger Quillam, UKIP – 79 (0.2%) “Doedd hi ddim mor agos ac roedd pobol yn ei feddwl yn y diwedd,” meddai Rhun ap Iorwerth yn amlwg yn hapus gyda pherfformiad ei blaid i guro Reform mewn ffordd fawr ag annisgwyl – o ran maint y fuddugoliaeth. Ychwanega fod y canlyniad yn dangos fod “Caerffili wedi gwrthod gwleidyddiaeth Reform”. ‘Buddugoliaeth i Gymru’ Hefyd yn ymateb yn fuan iawn ar ôl y canlyniad, ac mewn stad o emosiwn ar yr hyn roedd o wedi cyflawni oedd Lindsay Whittle. Cyn yr etholiad, er ei fod wedi bod yn Aelod o’r Cynulliad fel aelod rhanbarthol rhwng 2011 a 2016, bu’n trafod ei allu “i ddod yn ail” mewn etholiadau yng Nghaerffili. Dywed fod yna “ddim cymhariaeth” o ran pa fuddugoliaeth sy’n feddwl y mwyaf iddo fo yn bersonol. “Dwi mor falch i ddweud y gwir,” meddai wrth golwg360. “Ac mae e’n meddwl lot mwy i fi na (pan enillais) ar y rhestr. “Ond mae hyn yn fwy na jest fi fel person – mae hwn yn fuddugoliaeth i Gymru.” Ond bore yma, fo sydd wedi dod allan ar y brig, a dywed fod y canlyniad “gyda chanllawiau enfawr i weddill Cymru” ar drothwy etholiad y Senedd fis Mai nesaf. “Os rydym yn medru ennill fel yma yn y de ddwyrain, wel, mi rydym ni’n medru ennill yn y gogledd ddwyrain ac ym mhob pedwar cornel o’r wlad,” meddai. “Dwi’n meddwl fod e’n bwysig i ddangos i bobol Cymru y gall yna fod dechrau newydd i ni, a hynny gydag arweinyddiaeth newydd i Gymru newydd.” Ychwanega Lindsay Whittle ei fod eisiau gweld cenedl “gyda mwy o hyder” sy’n barod i frwydro dros degwch. “Mae Cymru ddim wedi cael digon o hyder dros y blynyddoedd diwethaf a hynny oherwydd ein bod ni wedi cael ein gwasgu i lawr am ormod o amser,” meddai. “Ond heno, rydym wedi cychwyn i frwydro’n ôl ac mi fydd Plaid Cymru yn parhau i arwain hynny.” ‘Plaid Cymru’n apelio at bobol ifanc’ Tu hwnt i’r canlyniad ei hun, beth oedd yn rhyfeddol oedd bod 50.4% wedi troi allan i bleidleisio – y tro cyntaf i hyn ddigwydd mewn is-etholiad ar gyfer Senedd Cymru. Cyn y bleidlais, y meddylfryd ymysg sylwebwyr oedd bod canran uwch o bleidleiswyr yn golygu mwy o gyfle i Reform ennill, a hynny’n defnyddio’r rhesymeg y bod mwy o bleidleiswyr am y tro cyntaf yn dueddol o bleidleisio iddyn nhw. Er hynny, Plaid Cymru gipiodd hi. Yn ôl yr Aelod Senedd Peredur Owen Griffiths, mae hynny lawr i apêl Plaid Cymru at bobol ifanc. “Rydym wedi bod yn apelio i bobol ifanc sy’n chwith yn wleidyddol – pobol flaengar, pobol sydd eisiau gwleidyddiaeth a Chymru well,” meddai wrth golwg360. “Mae pobol eisiau gweld uchelgais, a dyma beth sydd gennym ni yma ym Mhlaid Cymru.” Yn cyfeirio at rethreg raniadol Reform ar fewnfudo – yn enwedig ar bolisi Cenedl Noddfa Llywodraeth Cymru – dywed Peredur Owen Griffiths fod Plaid Cymru eisiau bod yn “groesawgar” i “bawb sydd yn byw” yn y wlad. “Mae’r canlyniad heno yn dangos fod pobol Caerffili eisiau gwleidyddiaeth sy’n dangos fod yna galon i’n cymunedau ni,” meddai. Dadansoddiad ein Gohebydd Gwleidyddol, Rhys Owen: Wel, am noson! Dwi’n eithaf sicr fod bron neb wedi gweld Plaid Cymru’n ennill gyda bron i 4,000 pleidlais yn fwy na Reform. Yn wir, y mwyafrif o drafodaeth yn y cyfri ar ddechrau’r noson oedd y tebygolrwydd o weld ail-gyfrif mewn amodau lle mae’r canlyniad mor agos. Ond i Rhun ap Iorwerth, mae hyn yn rhywbeth sydd yn fwy na Chaerffili. Gydag etholiad y Senedd ar y gweill, mi fyddwch chi’n clywed yn ddyddiol maen nhw sydd yn barod i gymryd drosodd arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru. I’r Blaid Lafur, does ddim modd or-bwysleisio pa mor ddamweiniol yw’r canlyniad. Mewn sedd sydd wedi bod yn gadarnle am dros ganrif, mae ffydd etholwyr a oedd ddim hyd yn oed yn meddwl i bleidleisio dros blaid arall wedi diflannu’n llwyr. Felly, chwe mis i fynd, ac mi fyddwn ni’n ôl mewn etholiad go iawn ym Mai. Mwy gan Rhys ar Instagram.

WA company ordered to pay $1m over 16yo factory death
Arrestohet në Tiranë për llogari të Kosovës 49-vjeçari nga Tepelena (EMRI+VIDEO)
Technology

Arrestohet në Tiranë për llogari të Kosovës 49-vjeçari nga Tepelena (EMRI+VIDEO)

Policia e Shtetit, ka finalizuar operacionin policor të koduar “Operacionalja 69”, në kuadër të të cilit është arrestuar në Tiranë një shtetas shqiptar i shpallur në kërkim nga autoritetet e Kosovës për kultivim të bimëve narkotike. Policia thote se është bërë i mundur ndalimi i shtetasit Oltion Shehu 49-vjeç, lindur në Tepelenë. Ky shtetas ishte shpallur në kërkim pasi Gjykata Themelore e Gjakovës, në shkurt të vitit 2025, i kishte caktuar masën e sigurisë “Arrest në burg” për veprën penale “Kultivimi i bimëve narkotike”. Policia bën me dije se Interpol Tirana po vijon bashkëpunimin me autoritetet kosovare për përfundimin e procedurave ligjore që do të çojnë në ekstradimin e 49-vjeçarit drejt Kosovës. Policia e Shtetit/Finalizohet operacioni policor i koduar “Operacionalja 69”. Kapet në Tiranë, nga Drejtoria e Forcës së Posaçme Operacionale, një shtetas shqiptar, i akuzuar për kultivim të bimëve narkotike në Kosovë. Si rezultat i shkëmbimit të informacionit dhe partneritetit të ngushtë me agjencitë ligjzbatuese në Kosovë, shërbimet e Drejtorisë së Forcës së Posaçme Operacionale të Drejtorisë së Përgjithshme të Policisë së Shtetit, kapën në Tiranë, në kuadër të operacionit “Operacionalja 69”, shtetasin O. Sh., 49 vjeç, të lindur në Tepelenë. Ai ishte shpallur në kërkim, sepse Gjykata Themelore e Gjakovës, në muajin shkurt, 2025, i ka caktuar masën e sigurisë “Arrest në burg”, për veprën penale “Kultivimi i bimëve narkotike”. Interpol Tirana vijon bashkëpunimin me agjencitë ligjzbatuese në Kosovë, për të finalizuar procedurën për ekstradimin e 49-vjeçarit.

In pictures: How the Caerphilly by-election unfolded
Vdekja e papritur e mjeshtrit 29-vjeçar të shahut, Federata Botërore merr nën hetim ish-kampionin. Ja akuza
Labour sees 100 years of history come crashing down as Plaid wins big